Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, os ydych chi’n 18+ oed ac yn ymweld â’n theatrau neu’n sinemâu, bydd angen pàs Covid cyfredol, neu eich bod wedi cael prawf llif unffordd negyddol yn ddiweddar. Am fanylion a gwybodaeth ar pàs Covid, cliciwwch yma.

I am Belmaya (12A)

I am Belmaya (12A)

Llun 1 Ion 0001 - Mer 27 Hyd 2021

Prydain | 2021 | 81’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Sue Carpenter, Belmaya Nepali

Yn 21 oed, mae Belmaya wedi rhoi’r gorau i geisio dod o hyd i hapusrwydd. Fel menyw Dalit draddodiadol, gyda gŵr gormesol a babi, mae’n dyheu am annibyniaeth a bywyd creadigol. Yna, rydyn ni’n mynd yn ôl at glip ffilm o 2006, pan oedd hi’n ferch wrthryfelgar yn ei harddegau, yn byw mewn cartref i ferched ac yn bachu ar y cyfle i ddysgu ffotograffiaeth, ond bod ei chamera wedi’i gloi i ffwrdd. Ymlaen wedyn i 2014 unwaith eto, ac mae hi’n ail-godi’r camera ac yn hyfforddi fel gwneuthurwr ffilm, ond a yw ei gŵr a’i chymuned yn barod am hyn? Chwedl ysbrydoledig am ddewrder a gobaith, wrth i Belmaya gymryd yr awenau i adrodd ei stori.

“Portread anhygoel o fenyw ifanc o Nepal yn codi ei hunan o ddarostyngiad drwy ffotograffiaeth a chreu ffilmiau” William Hemmingway, UK Documentary Film Review

Prisiau:

£6 / £4

Tocynnau ac Amseroedd