Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Il Buco (U)

Gwen 10 - Iau 16 Meh

Yr Eidal | 2021 | 93’ | U | Michelangelo Frammartino | Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg | Nicola Lanza

Yn ystod ffyniant economaidd y chwedegau, mae adeilad uchaf Ewrop yn cael ei adeiladu yng ngogledd ffyniannus yr Eidal. Ar ben arall y wlad, mae ogofegwyr ifanc yn archwilio Affwys Bifurto, sef ogof ddyfnaf Ewrop yng nghefn gwlad digyffwrdd Calabria, wrth i’w dyfnderoedd gael eu cyrraedd am y tro cyntaf. Wrth iddyn nhw blymio’n ddyfnach byth, mae hen fugail yn gweld ei fywyd yn rhyngblethu gyda thaith y grŵp. 


Dyma ddarn arall o harddwch hudolus a chyfriniol, mewn astudiaeth drama-ddogfennol am fywyd organig a natur gan wneuthurwr ffilm Le Quattro Volte. Enillydd Gwobr Arbennig y Rheithgor yn Fenis 2021.

 

Prisiau:

£6 / £4 

Unallocated seating - sold at full capacity 

COVID safety: We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here.

Tocynnau ac Amseroedd