
Mis Hanes LHDTC: Cyflwyniad arbennig Gwobr Iris
Goreuon Iris a Straeon Traws
Dwy raglen arbennig gan ein cyfeillion yng Ngwobr Iris wrth i ni nodi Mis Hanes LHDTC. Mae Goreuon Iris yn gyfle i weld y ffilm fuddugol, Baba, ynghyd â’r ffilmiau eraill oedd yn cystadlu am y wobr ryngwladol a gwobr Prydain, ac mae enillwyr Rheithgor Ieuenctid Iris a Straeon Traws yn cynnwys enillydd Gwobr Gynulleidfa’r Co-Op.
Bydd egwyl byr rhwng y rhaglenni.
Goreuon Iris
Amrywiol | 2021 | 48’ | 12a
Baba
Prydain | 2021 | 18’ | 12a | Sam Arbor, Adam Ali
Adam Ali
Mae Britannia, bachgen queer yn ei arddegau o Lybia, yn byw yn y twneli o dan Tripoli, ac yn breuddwydio am gael dianc i fywyd gwell, ond mae darganfyddiad annisgwyl yn ei orfodi i gwestiynu a ddylai aros neu ddianc oddi wrth ei famwlad a’i ffrindiau.
“Ffilm sydd wedi’i chrefftio’n fedrus sy’n trafod gormes, derbyn a chryfder cymuned. Mae’r gwaith cyfarwyddo’n drawiadol, yn gydlynol ac yn cynnig eiliadau o hunanfyfyrio, gan annog dewrder a balchder yn eich hunaniaeth. Mae’r materion a gaiff eu harchwilio’n faterion systemig sy’n effeithio ar bobl ddi-ri, ond mae’r stori’n cael ei phortreadu mewn ffordd sy’n annog galwad i weithredu - sef parhau’r frwydr dros gydraddoldeb”. Rheithgor Iris
Sansara: We Will Become Better
Rwsia | 2021 | 6’ | PG | Andzej Gavriss
Maksim Avdeev, Nikita Orlov
Creodd y band indi o Rwsia, Sansara, y fideo cerddoriaeth yma fel teyrnged i gymuned LHDT+ Rwsia, 12 mis ar ôl i’r wlad basio deddfwriaeth sy’n diffinio priodas fel undod rhwng dyn a dynes yn unig. Mae’n gyfuniad hyfryd o gerddoriaeth a symudiad, ac yn stori gynhyrfus am gariad wedi’i rwystro, ac er na allwn ni gymryd dim clod am hyn, mae wedi’i wylio dros filiwn o weithiau ar YouTube ers iddo gael ei gyflwyno ar gyfer Gwobr Iris!
“Gydag estheteg hudol ddigyfaddawd a strwythur cywrain, mae’r dull creadigol yma o greu ffilm yn gweithredu fel dathliad o gydraddoldeb. Mae’r ffilm yma’n ein hatgoffa am yr angen i gysylltu gydag eraill er gwaetha’r pellter a’r amgylchiadau.” Rheithgor Iris
Cwch Deilen
Cymru | 2020 | 8’ | U | Efa Blosse-Mason
Sara Gregory, Catrin Stewart
Stori serch animeiddiedig am ddeilen sy’n troi’n gwch, ac mae ofnau’n codi o’r dyfroedd dieithr fel stormydd a bwystfilod môr. A fydd y Cwch Deilen yn goroesi’r tonnau terfysglyd?
“Animeiddiad hudol, dychmygus a theimladwy gyda lluniau hyfryd wedi’u creu â llaw.” Rheithgor Iris
S.A.M.
Prydain | 2021 | 16’ | PG | Lloyd Eyre-Morgan, Neil David
George Webster, Sam Retford
Mae dau ddyn ifanc yn ffurfio cysylltiad ar siglenni eu parc lleol.
Straeon Traws
Amrywiol | 2021 | 65’ | 15
God’s Daughter Dance
De Corea | 2020 | 24’ | 12a | Sungbin Byun
Choi Haejun, Wookyum Kim, Hojun Lim
Mae dawnswraig drawsryweddol, Shin-mi, yn cael galwad gan y Weinyddiaeth Gweithlu Milwrol, i sefyll Arholiad Gwasanaeth Milwrol. Mae popeth yn barod gan Shin-mi, ac mae’n cymryd camau i baratoi am frwydr.
“Gwaith dwys a theimladwy sy’n tynnu sylw at fater pwysig mewn perthynas â chydraddoldeb rhywedd. Mae’r prif gymeriad yn portreadu dewrder heb ei ail yn wyneb adfyd, gyda stori rymus a phaled lliw hudolus.” Rheithgor Iris
Pop
Prydain | 2021 | 21’ | 15 | Margo Roe
Stephen Graham, Jake Raynor
Bachgen ifanc sy’n archwilio ei hunaniaeth yw Jack, ac mae’n dod yn ffrindiau â chyn-droseddwr sydd newydd adael y carchar, Pop. Mae’r ddau’n ffurfio cysylltiad, ond mae gorffennol Pop a’i anallu i reoli ei emosiynau yn bygwth rhoi Jack mewn perygl.
“Ffilm wedi’i chreu’n hyfryd gyda pherfformiadau cymhleth, mewn byd sy’n gyfarwydd o waith sinema annibynnol gorau Prydain y degawdau diwethaf, ond gan fynd ag e i lefydd unigryw. Bydd y diweddglo’n aros gyda chi ymhell ar ôl i’r credydau gloi.” Rheithgor Iris
Birthday Boy
Prydain | 2021 | 20’ | 15 | Leo LeBeau
Selma Alkaff, Fuller Ayumi
Mae Alex yn fachgen trawsryweddol ac yn byw bywyd dwbl mewn gemau ar-lein, lle mae’n gallu mynegi ei wir hunaniaeth, ond mae’n cael ei fwlio yn ei ysgol breifat i ferched. Mae’n llawn cyffro wrth iddo drefnu parti pen-blwydd digidol, ond ar y diwrnod arbennig mae’r bwlio’n troi’n dreisgar
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi