
Mae cariad, diwylliant a hunan-fynegiant yn uno gyda byd gor-wrywol a hynod geidwadol dawns Georgaidd yn y stori serch afaelgar yma. Yn cyfleu harddwch Tbilisi gyda choreograffi eithriadol ac yn cynnwys perfformiad syfrdanol gan y dawnsiwr proffesiynol Levan Gelbakhiani, mae'r ffilm yma'n ddarn o waith grymus sydd wedi ysbrydoli protestiadau chwyrn mewn sinemâu ac atgyfodi'r ymgyrch dros hawliau LHDTQRhA yn y wlad.
Georgia | 2019 | 106’ | TBC | Levan Akin