
UDA | 1946 | 130’ | U | Frank Capra
James Stewart, Donna Reed, Lionel Barrymore, Henry Travers, Thomas Mitchell
Mae’n Noswyl Nadolig ac mae George, sy’n ystyried ei hunan yn fethiant erioed, yn wynebu methiant ariannol ac yn nyfnder anobaith. Ymhell uwch ben ei gartref yn Bedford Falls, mae dau lais nefol yn trafod ei gyfyng-gyngor, ac yn anfon angel chwit-chwat, Clarence, i ddangos i George ei fod yn werthfawr yn y byd. Dyma ffilm Nadolig glasurol a stori dwymgalon sy’n dangos grym cymuned ac sy’n derbyn na all bywyd fod yn berffaith, ond ei fod yn dal i fod yn hyfryd.