
Ffrainc | 2018 | 95’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Aurélia Mengin | Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg
Aurélia Mengin, Emmanuel Bonami
Mae Anya, sy’n boddi mewn tristwch ac unigrwydd ar ôl colli ei chariad, yn glanio mewn llanast dryslyd o atgofion a ffantasi. Yng nghanol nos, mae Anya’n penderfynu stopio yn Le Fornacis, hen far llwm. Yno mae’n dod ar draws y Blaidd carismatig, ac mae’r ddau enaid coll yn gwneud cysylltiad. Archwiliad celfydd o alar, hiraeth a mythau fampirod.