
Ynysoedd y Pilipinas | 2021 | 88’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Randal Kamradt
Jake Macapagal, Jessica Neistadt
Pan fydd bwystfil twyllodrus hynafol yn peryglu bodolaeth pob bywyd dynol, dim ond yr hen dîm aml-wladol P.H.A.S.E. all ei rwystro. Ond mae gan eu haelod newydd gyfrinach syfrdanol. Yn groes i’r disgwyl, mae’n rhaid i’r tîm unig, anodd, llawn gwrthdaro a chwbl ddynol yma ddod at ei gilydd i achub y byd. Dyma ffilm antur brysur drwy Ynysoedd y Pilipinas, yn cynnwys creaduriaid dychrynllyd ac anhygoel o Fytholeg Ffilipino, ac mae’n llythyr serch gwefreiddiol i sinema genre ac ynysoedd hardd y Pilipinas.