Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Croeso i Ganolfan Gelfyddydau Chapter. Mae ganddon ni lawer o ddigwyddiadau, ffilmiau, perfformiadau, ac arddangosfeydd ar eich cyfer chi yn ystod y misoedd nesaf. Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i gael diweddariadau, newyddion a rhestriadau sioeau yn syth i’ch mewnflwch.

Jumbo (15)

Llun 1 Ion 0001 - Iau 22 Gor 2021

Ffrainc | 2020 | 93’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Zoé Wittock
Noémie Merlant, Emmanuelle Bercot, Bastien Bouillon

Menyw ifanc swil yw Jeanne sy’n byw gartref gyda’i mam, gweinyddes benrydd sy’n gweithio y tu ôl i’r bar, ac mae’n gweithio’r sifft dawel fel glanhawraig mewn parc adloniant. Yn ystod ei sifftiau hwyr, mae’n dechrau treulio amser gyda’r reid newydd Tilt-A-Whirl, sef Jumbo. Mae hi’n cael ei hudo gan y goleuadau coch, y crôm llyfn, a’r hydroleg drawiadol sydd ganddo ‘fe’, ac mae Jeanne yn penderfynu efallai nad gyda dyn mae’r berthynas gyffrous newydd mae hi’n chwilio amdani wedi’r cwbl. Stori serch anghonfensiynol sy’n edrych o ddifri ar ddarganfod serch, ond wedi’i hadrodd gyda hiwmor nwyfus. Dyma ffilm swrrealaidd, a ffilm gynta’r cyfarwyddwr, gyda pherfformiad hyfryd yn ganolog iddi. 

 

Prisiau:

£6 / £4

Tocynnau ac Amseroedd