
Prydain | 2022 | 126’ | 15 | Laure de Clermont-Tonnerre | Emma Corrin, Jack O’Connell
Mae’r Fonesig Chatterley, menyw briod a aned i fywyd o gyfoeth a braint, yn dechrau carwriaeth danbaid gyda’r ciper ar eu hystâd, gan ddarganfod mwy o chwant ac agosatrwydd na fyddai hi wedi’i ddychmygu. Pan mae hi’n sylweddoli ei bod hi wedi cwympo dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad, mae’n torri holl draddodiadau’r oes ac yn ceisio hapusrwydd gyda’r dyn mae’n ei garu. Yn seiliedig ar nofel glasurol D.H.Lawrence, llyfr a gafodd ei wahardd ac sy’n dal pŵer nwydus hyd heddiw.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw