
Prydain | 2021 | 116’ | 18 | Edgar Wright
Anya Taylor-Joy, Thomasin McKenzie, Matt Smith, Diana Rigg
Caiff menyw ifanc ei chludo’n ôl i’r chwedegau yn y ffilm ffantasi arswyd ddiddiwedd o ddyfeisgar yma gan yr ardderchog Edgar Wright.
Mae Eloise ifanc ac annwyl, sydd ag obsesiwn am y chwedegau, yn darganfod bod ei breuddwydion yn dod yn wir pan gaiff ei derbyn i ysgol ffasiwn yng nghanol cyffro West End Llundain. Ond mae bywyd yn y ddinas fawr yn sioc i system y ferch wladaidd, a phan fydd ei neuadd breswyl swnllyd yn dod yn ormod iddi, mae’n rhentu ystafell yn atig y fatriarchaidd Miss Collins (Diana Rigg, yn ei rôl olaf mewn ffilm). Y noson honno, yn ei gwely newydd, mae Eloise yn cael ei chludo’n ôl yn ddiesboniad i 1966, ac i gorff cantores ifanc fentrus o’r enw Sandy. Ond wrth iddi ddechrau dod i arfer gyda’i theithiau drwy amser gyda’r nos, mae Eloise yn araf ddechrau datgelu realiti dychrynllyd chwedegau Llundain. Gyda pherfformiadau trawiadol gan y prif actorion Anya Taylor-Joy, Thomasin McKenzie a Matt Smith, a chefnogaeth gyfareddol gan wledd o actorion chwedlonol o Brydain gan gynnwys Rigg, Rita Tushingham a Terence Stamp, mae rhyfeddod Edgar Wright yn gymysgedd o genres ac yn deyrnged orfoleddus (a thywyll a threisgar ar adegau) i hud y ffilmiau, ac yn llythyr serch teimladwy i brifddinas.