
Rhaglen amrywiol o ffilmiau byrion o Brydain, yn arddangos doniau Cwiar o flaen y llen a’r tu ôl iddi. Dilynir â thrafodaethau gan y gwneuthurwyr ffilm eu hunain
Make Me A King
Prydain | 2021 | 16’ | Sofia Olins
Libby Mai, Ben Caplan
Mae Ari’n perfformio fel Brenin Drag Iddewig, er mawr ddryswch i’w teulu. Gan addoli’r arwr go iawn, Pepi Littman, a gerfiodd le i Frenhinoedd Drag dros ganrif yn ôl, maen nhw’n defnyddio hanes i agor gofod ar gyfer derbyniad yn y presennol.
Do This For Me
Prydain | 2022 | 20’ | Marnie Baxter
Mae cynnal cyfeillgarwch yn eich ugeiniau’n anodd. Jyglo gyrfaoedd, rhamant, a’r ofn o droi’n 30. Dyma Lex, Gracie, Beca, Kat, a Joy. Rydyn ni i gyd yn eu nabod nhw, gan mai ni ydyn nhw. Gan ddod at ei gilydd unwaith eto i dalu teyrnged i ffrind, mae tensiynau’n cynyddu’n gyflym wrth i lawenydd droi’n feddwdod, ac wrth i alar afael yn y rhai sydd wedi’u gadael ar ôl.
Minutes
Prydain | 2021 | 14’ | Alix Eve, Olivia Dowd
Ell Potter, Ella Dacres
Perthynas mewn microcosm – o ddêt cyntaf nerfus, i uno, cyn gwahanu. Ond a allai fod rhywbeth newydd?
Planet Love
Cymru | 2012 | 3’ | Rachel Dax
Amelia Gildea, Engel Angelica
Mae cynorthwyydd siop wedi diflasu, ac yn mynd ar daith ei bywyd pan fydd cwsmer unigryw yn ei denu oddi wrth y til.
Night Out
Prydain | 2018 | 11’ | Amelia Hashemi
Savannah Clement, Savvy Clement
Mae’n anodd bod yn eich arddegau. Mae darganfod pwy rydych chi eisiau bod yn anoddach byth. Weithiau gall noson allan newid popeth... Mae tair merch ysgol yn parcio y tu allan i glwb ar ochr arall Llundain, pob un â’u rhesymau eu hunain i gael y noson orau erioed. Fel y rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau, maen nhw eisiau gwthio ffiniau, dod i ddeall eu hunain, a chael profiadau newydd.
Home Girl
Prydain | 2018 | 12’ | Poonam Brah
Aysha Kala, Goldy Notay
Mae Roya, menyw Fwslimaidd Brydeinig, yn galaru ar ôl marwolaeth ei mam. Yn boddi mewn anobaith ac wedi’i llethu gan yr hyn na chafodd ei ddweud, mae Roya’n cael ei gorfodi i wynebu ei gwir ddymuniadau.
Ladies Day
Prydain | 2018 | 9’ | Abena Taylor-Smith
Savannah Steyn, Jade Avia
Mae lesbiad ddu ifanc yn treulio’r diwrnod mewn siop trin gwallt Affricanaidd-Caribïaidd. Mae’r lle’n llawn hwyl, sgleiniwr gwallt, clecs a chwerthin, ond sut bydd hi’n delio â’r homoffobia achlysurol?
Cwch Deilen
Cymru | 2020 | 8’ | Efa Blosse-Mason | Cymraeg gydag isdeitlau Saesneg
Sara Gregory, Catrin Stewart
Ffilm fer Gymraeg sy’n adrodd stori Heledd a Celyn, sy’n dygymod â’r dyfroedd dieithr wrth ddechrau perthynas newydd.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw