Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Rydyn ni ar agor! Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i’ch cadw chi’n ddiogel, gan gynnwys pellter cymdeithasol o 2 fedr, Tracio ac Olrhain, mynediad drwy’r drysau blaen yn unig, a seddi dynodedig yn ein sinemâu a’n theatrau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

LFF: Drive My Car (15)

LFF: Drive My Car (15)

Llun 1 Ion 0001 - Sul 17 Hyd 2021

Japan | 179’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Iaith Dramor | Ryusuke Hamaguchi
Hidetoshi Nishijima

Wedi’i ysbrydoli gan stori fer Haruki Murakami, mae Ryusuke Hamaguchi yn mynd â ni ar daith anrhagweladwy a hunan-ddadlennol yn y ddrama dawel ond cyffrous yma.

Mae gan y cyfarwyddwr theatr Yusuke, a’i wraig sy’n sgriptwraig deledu Oto, gysylltiad arbennig fel partneriaid creadigol, gan rannu bywyd sy’n llawn defodau preifat. Caiff hyn ei chwalu gan ddigwyddiad sydyn, ac ymddangosiad chauffeur newydd Yusuke, Misaki, sef actores o gyfres deledu Oto. Wrth i’r ffilm dynnu haenau tawel eu priodas yn araf, mae tebygrwydd yn amlygu gyda chynhyrchiad cyfredol Yusuke o ‘Uncle Vanya’ gan Chekhov. Fel y mae’r teitl yn awgrymu, mae llawer o’r ffilm yn digwydd wrth yrru, gyda hen Saab coch Yusuke yn dod yn fan canolog lle mae’r prif gymeriadau yn datgelu eu gwirioneddau mwyaf mewnol. Mae sgript berffaith Hamaguchi a Takamasa Oe, er ei bod yn weledol lym, yn ein cadw ni ar flaen ein seddi drwyddi draw, yn aros yn frwd am y datgeliad nesaf. Dyma ffilm ddwys a synhwyraidd gyfoethog, wedi’i chynnal gan berfformiadau gwych a saethiadau hir dewr. Byddwch wedi ymgolli drwy’r tair awr, ac mae Drive My Car yn dangos i ni sut gall tawelwch clòs gynyddu’r gwirionedd a dod yn rhan o esblygiad cywrain stori bywyd.

Screening as part of BFI London Film Festival.

undefined

 

Prisiau:

£6 / £4

Tocynnau ac Amseroedd