Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Rydyn ni ar agor! Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i’ch cadw chi’n ddiogel, gan gynnwys pellter cymdeithasol o 2 fedr, Tracio ac Olrhain, mynediad drwy’r drysau blaen yn unig, a seddi dynodedig yn ein sinemâu a’n theatrau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

LFF: Memoria (ctba)

Llun 1 Ion 0001 - Sul 17 Hyd 2021

Colombia | 2021 | 136’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Iaith Dramor | Apichatpong Weerasethakul
Tilda Swinton

Wedi’i saethu a’i gosod yng Ngholombia, mae myfyrdod ystyrlon Apichatpong Weerasethakul ar y cof a’r cyflwr dynol yn cael ei angori gan bresenoldeb enigmatig ac arallfydol Tilda Swinton.

Wrth ymweld â’i chwaer yn Bogotá, caiff Jessica (Tilda Swinton) ei deffro gan sŵn clec mawr, ond dim ond hi sy’n ei glywed. Yn aflonydd ac yn ddryslyd, mae hi’n ymlwymbro drwy’r ddinas yn chwilio am eglurhad i’r sŵn dirgel, ac mae’n cael ei throchi yn y cyfoeth clywedol o’i chwmpas – sibrydion mewn ystafell ysbyty, effeithiau sain mewn stiwdio olygu, a synau swnllyd o sgwâr y ddinas. Er ei bod yn bresennol drwyddi draw, mae cymhellion Jessica’n parhau i fod yn niwlog, a’i chyfarfyddiadau’n enigmatig. Dyma ffilm nodwedd gyntaf Weerasethakul y tu allan i Wlad Thai, ac mae’n parhau i archwilio’r anhysbys. Gan ddefnyddio themâu cyfarwydd cwsg, cof, bywydau’r gorffennol, tirweddau gwyrdd a breuddwydion, mae Memoria yn cadw ei rhesymeg gyfareddol ei hunan wrth i’r gwneuthurwr ffilm gadw ei statws fel rhywun o’r tu allan yng Ngholombia, er mwyn pwysleisio grym yr anhreiddiadwy ymhellach. Mae ymrwymiad y ffilm i sain yn ein galluogi ni i ddilyn Jessica at drothwy’r cof personol a chasgliadol, ac yn darparu profiad sinemataidd prin a fydd yn atseinio am amser hir i ddod.

 

Screening as part of BFI London Film Festival.

undefined

Prisiau:

£6 / £4

Tocynnau ac Amseroedd