
Malta | 2021 | 94’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Alex Camilleri | Malteg gydag isdeitlau Saesneg
Jesmark Scicluna, Michela Farrugia, David Scicluna
Mae Jesmark, sy’n bysgotwr, yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd mewn marchnad sy’n mynd yn anoddach o hyd. Gyda gwraig a babi ifanc i ofalu amdanynt, mae’n brwydro’n gyson oherwydd deddfau newydd sy’n cyfyngu ar y mathau o bysgod mae’n cael eu dal a’r llongau pysgota masnachol enfawr sy’n tra-arglwyddiaethu ar y môr. Heb weld dim ffordd ymlaen, mae Jesmark yn darganfod busnes ar y farchnad ddu a allai gynnig ateb peryglus i’w broblemau. Astudiaeth ddilys ac agos-atoch o gymeriad yw Luzzu, gyda pherfformiadau eithriadol gan bobl nad ydyn nhw’n actorion, a ffilm gyntaf syfrdanol gan yr awdur-gyfarwyddwr sy’n creu delwedd dorcalonnus o golli cymuned a thraddodiadau diwylliannol yn sgil newidiadau cyffredinol a newid yn yr hinsawdd.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi
Sul 24 , Maw 26 - Mer 27 Medi