
UDA | 2022 | 108’ | 15 | Alexandre O. Philippe
O’i ffilm fer gyntaf un, The Alphabet, i’w gyfres ddiweddaraf Twin Peaks: The Return, mae themâu, delweddau a iaith lafar The Wizard of Oz Victor Fleming yn parhau i aflonyddu ar gelfyddyd David Lynch. Mae’r ysgrif ffilm yma’n dadlau nad oes yr un gwneuthurwr ffilm wedi cael ei ysbrydoli mor gyson (yn ymwybodol neu’n anymwybodol) gan un darn o waith. Rydyn ni’n mynd draw dros yr enfys at gorff gwaith David Lynch i gymryd golwg agosach ar sut mae’n rhyngblethu ac yn cyfathrebu gyda’r ffilm glasurol deuluol. Cawn glywed chwe safbwynt unigryw, gan gynnwys John Waters a Karyn Kusama, i’n helpu i ailbrofi ac i ailddehongli symbolaeth Lynch drwy lens ei ddylanwad mwyaf.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw