
Prydain | 2023 | 95’ | tystysgrif i'w chadarnhau | Barnaby Thompson
Cafodd Noël Coward ei fagu mewn tlodi, a gadawodd yr ysgol yn naw oed. Ond cyrhaeddodd y llwyfan gyda’i ddoniau, ac ailddyfeisiodd ei hunan i fod yn seren ryngwladol a’r awdur ar y cyflog uchaf yn y byd erbyn iddo droi’n 30 oed. Gan ddefnyddio ei archif bersonol o ddyddiaduron a ffilmiau, ac atgofion gan ei ffrindiau a’i gydweithwyr, a gyda doniau lleisiol Rupert Everett a’r adroddwr Alan Cumming, cawn ddarganfod beth oedd y tu ôl i’r ffasâd cywrain. Dyn llawn gwrthgyferbyniad, alltud a ddiffiniodd ei wlad, gwrthryfelwr oedd yn wladgarwr, sy’n crynhoi hudoliaeth ystafelloedd byw cymdeithas Seisnig, a anwyd mewn cartref preswyl bach, ac sy’n hyfryd o Gwiar mewn byd syth.
Gwen 29 Medi, Maw 3 - Iau 5 Hyd