
Prydain | 2022 | 105’ | 15 | Will Lovelace
Gyda 9/11 yn gefndir, a byd nad yw’n gwybod am y newidiadau gwleidyddol a thechnolegol anferthol sydd i ddod, mae egni newydd ffrwydrol yn cyrraedd sîn gerddoriaeth Efrog Newydd ar ddechrau’r 2000au yn arwydd o aileni’r ddinas. Gan adrodd stori un o brif gyfnodau rhamantus olaf roc a rôl, dyma daith archifol drochol gyda rhai o’r bandiau a ddiffiniodd y cyfnod, fel The Strokes, LCD Soundsystem, Yeah Yeah Yeahs, TV on the Radio, a The Moldy Peaches.