Colombia | 2021 | 136’ | 12A | Iaith Dramor | Apichatpong Weerasethakul
Tilda Swinton
Wrth ymweld â’i chwaer yn Bogotá, caiff Jessica ei deffro gan sŵn clec mawr, ond dim ond hi sy’n ei glywed. Ac yn aflonydd ac yn ddryslyd, mae hi’n ymlwymbro drwy’r ddinas yn chwilio am eglurhad i’r sŵn dirgel, gan gael ei throchi yn y cyfoeth clywedol o’i chwmpas – sibrydion mewn ystafell ysbyty, effeithio sain mewn stiwdio olygu, a synau swnllyd o sgwâr y ddinas. Er ei bod yn bresennol drwyddi draw, mae cymhellion Jessica’n parhau i fod yn niwlog, a’i chyfarfyddiadau’n enigmatig. Dyma ffilm nodwedd gyntaf enillydd Artes Mundi Apichatpong Weerasethakul y tu allan i Wlad Thai, ac mae’n parhau i archwilio’r anhysbys. Gan ddefnyddio themâu cyfarwydd cwsg, cof, bywydau o’r gorffennol, tirweddau gwyrdd, breuddwydion a chof casgliadol, dyma brofiad sinemataidd prin a fydd yn atseinio am amser hir i ddod.