Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Met Opera: Madama Butterfly

Met Opera: Madama Butterfly

Llun 1 Ion 0001 - Sul 10 Tach 2019

Dychwela llwyfaniad hynod sinematig Anthony Minghella o stori Puccini am gariad nas dychwelir at ein sgriniau gan serennu’r soprano Hui He yn y brif ran ddinistriol.

Un o operâu mwyaf poblogaidd ein cenhedlaeth, mae Madama Butterfly yn dilyn stori merch ifanc Japaneaidd, Cio-Cio San, sy’n syrthio mewn cariad â Pinkerton, swyddog llynges Americanaidd. Mae yna drasiedi yn y cynhyrchiad hwn, sy'n ffefryn byth a beunydd gan y gynulleidfa.

Pier Giorgio Morandi sy’n arwain un o sgorau mwyaf cain a thorcalonnus byd opera. Ychwanega Plácido Domingo rôl arall at ei repertoire nodedig, yn canu Sharpless am y tro cyntaf ac  yn ymuno ag ef mae cast sydd hefyd yn cynnwys y tenor Piero Pretti fel Pinkerton, a’r fezzo-soprano Elizabeth DeShong fel Suzuki.

Prisiau:

£13.00 (£11.00 concs)

Tocynnau ac Amseroedd