
UDA | 2021 | 90’ | PG | Dean Fleischer-Camp | Jenny Slate, Isabella Rossellini, Dean Fleischer-Camp
Molwsg annwyl sy’n byw gyda’i nain, Connie, yw Marcel. Buont unwaith yn rhan o gymuned fawr o gregyn, ond bellach maen nhw’n byw ar eu pennau eu hunain, ar ôl goroesi trasiedi ryfedd. Pan mae gwneuthurwr ffilmiau dogfen yn dod o hyd iddyn nhw yn annibendod ei AirBnb ac yn creu ffilm amdanyn nhw, mae Marcel yn cipio calonnau miliynau o bobl ledled y byd, ond daw hyn â pheryglon annisgwyl ymysg y gobaith o ddarganfod ei deulu coll. Mae’r cymeriad annwyl o’r gyfres we yn ymddangos ar y sgrin fawr am y tro cyntaf, yn yr animeiddiad twymgalon yma.