
Y Swistir | 2020 | 99’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Iaith Dramor | Stéphanie Chuat, Véronique Reymond
Nina Hoss, Lars Eidinger
Nid yw Lisa, yr awdur galluog adnabyddus, yn ysgrifennu mwyach. Mae hi’n byw yn y Swistir gyda’i theulu, ond mae ei chalon wedi aros yn ei chartref, Berlin, gan guro i rythm calon ei gefell. Actor theatr enwog yw e, a phan mae’n cael diagnosis o ganser mae Lisa’n gwrthod derbyn ei dynged, ac yn gwneud popeth yn ei gallu i’w gael yn ôl ar y llwyfan. Drama dyner a theimladwy, heb fod yn or-sentimental, am greadigrwydd a chysylltiad, gyda dau berfformiad gwych yn ganolog iddi, a chais teilwng iawn gan y Swistir i Wobrau’r Academi 2021.