
Prydain | 2021 | 140’ | 12A | Patrick Marber
Aidan McArdle, Faye Castelow, Sebastian Armesto, Arty Froushan
Mae’r ddrama newydd Leopoldstadt gan Tom Stoppard, sydd wedi ennill gwobr Olivier, yn berfformiad angerddol am gariad, teulu a dygnwch. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, Leopoldstadt oedd hen ardal orlawn Iddewig Fiena, Awstria. Ond mae Hermann Merz, perchennog ffatri ac Iddew bedyddiedig sydd wedi priodi’r Gatholwraig Gretl, wedi symud i fyny yn y byd. Rydyn ni’n dilyn stori ei deulu dros hanner canrif, gan symud drwy drafferthion rhyfel, chwyldro, tlodi, cyfeddiant o Almaen y Natsïaid a’r Holocost. Mae cwmni o 40 o actorion yn cynrychioli pob cenhedlaeth o’r teulu yn y ddrama epig a chlòs yma.