Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Mae Chapter ynghau dros dro. Rydym yn cynnig rhaglen o uchafbwyntiau a newyddion yn ddigidol drwy ein gwefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol. Fel elusen cofrestredig rydym yn cynhyrchu dros 80% o’n hincwm ein hunain a gall eich cefnogaeth helpu i ddiogelu dyfodol ein canolfan gelfyddydau. Os gwelwch yn dda cyfrannwch arlein, neu i roi £10 tecstiwch CHAPTER i 70191. Diolch am eich cefnogaeth ac rydym yn edrych mlaen i’ch croesawu chi nol. Darllennwch ein diweddariad Coronafeirws llawn yma

Parasite (15)
Selling Fast

Parasite (15)

Llun 1 Ion 0001 - Iau 27 Chwef 2020

Mae Parasite, sydd wedi ennill gowbr Palme d’Or, yn dilyn hanes teulu o weithwyr caled sy'n gweithio'u ffordd i fyd perffaith teulu o'r dosbarth uwch. Mae teulu Kim yn byw bywyd ar y cyrion, pan mae eu mab yn ffugio'i ffordd i ddod yn diwtor Saesneg i deulu cyfoethog y Parkiaid. Yn fuan, mae pedwar aelod y teulu wedi ymdreiddio i bob agwedd ar fywyd dydd i ddydd y Parkiaid. Ond mae'r tŷ'n cuddio cyfrinachau sy'n bell y tu hwnt i gynllun Kim.

Ffilm gyffro ddifyr a thramgwyddus, lle mae Bong Joon Ho yn cynnig yr un reddf, ffraethineb a dicter gwleidyddol a wnaeth gydag Okja, The Host a Snowpiercer.

Enillodd Parasite wobr am y ffilm Iaith Dramor Orau yng ngwobrau'r Golden Globe, a'r Ffilm Orau Cymdeithas Beirniaid LA, ac mae hefyd wedi'i henwebu ar gyfer y Ffilm Orau, Ffilm Iaith Dramor Orau, Cyfarwyddwr Gorau a'r Ddrama Sgrin Orau yn y BAFTAs.

South Korea | 2019 | 132’ | 15 | Bong Joon Ho

Ffilm Corea gydag is-deitlau Saesneg​

Prisiau:

Various | Amrywiol 

Tocynnau ac Amseroedd