
Ffrainc | 2021 | 72’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Iaith Dramor | Céline Sciamma
Joséphine Sanz, Gabrielle Sanz, Nina Meurisse
Yn y chwedl ddisglair yma, mae Céline Sciamma yn llunio archwiliad dirgel a thyner o blentyndod a galar.
Yn dilyn marwolaeth ei nain, mae Nelly, sy’n wyth oed, yn teithio i gartref yr hen fenyw i helpu ei rhieni i bacio. Pan fydd ei mam yn gadael yn annisgwyl, mae Nelly’n dod yn ffrindiau â merch fach mewn coedwig gyfagos – cyfarfyddiad sy’n datgelu byd newydd rhyfedd a hudolus. Fyddwch chi ddim eisiau gwybod gormod am Petite Maman ymlaen llaw, er mwyn gwerthfawrogi ei hud tawel ond grymus. Mae’r ffilm gymharol fer yn llawn i’r ymylon, ac wedi’i gwireddu’n llwyr o safbwynt plentyn, ac mae Sciamma (Portrait of a Lady on Fire, Gŵyl Ffilmiau Llundain 2019) wedi’i hysbrydoli gan fyd rhyfeddol Hayao Miyazaki i archwilio thema’r Fam a chymhlethdod tyfu i fyny. Mae sinematograffi hydrefol atgofus (diolch i’r cyfarwyddwr ffotograffiaeth arbennig Claire Mathon), mise-en-scène cynnil a pherfformiadau perffaith gan gast ifanc, yn gyrru’r ffilm hynod ddychmygus a thyner yma.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi