
Prydain | 2020 | 89’ | 12A | Paul Sng, Celeste Bell
Poly Styrene oedd y fenyw groenliw gyntaf ym Mhrydain i fod yn brif leisydd i fand roc llwyddiannus. Cyflwynodd sŵn newydd o wrthryfela i’r byd, gan ddefnyddio ei llais anghonfensiynol i ganu am hunaniaeth, prynwriaeth, ôl-foderniaeth, a phopeth roedd hi’n ei weld yn digwydd ym Mhrydain ar ddiwedd y saithdegau, a hynny mewn ffordd broffwydol iawn. Fel prif leisydd X-Ray Spex, y gerddores pync Saesnes o Somali yma oedd prif ysbrydoliaeth mudiadau riot grrrl ac Affropync.
Ond nid ôl-troed diwylliannol nodedig oedd yr unig beth adawodd y ddiweddar arwres pync ar ei hôl. Fe adawodd ei merch, Celeste Bell, a ddaeth - heb yn wybod iddi - yn warchodwraig i waddol a demoniaid ei mam. Roedd atgasedd at fenywod, hiliaeth, a salwch yn faich ar fywyd Poly, ac roedd y trawma a achosodd hyn yn graith ar blentyndod Celeste a pherthynas y ddwy.
Yn cynnwys deunydd newydd o’r archif a darnau prin o’i dyddiadur wedi’u hadrodd gan Ruth Nega, sydd wedi’i henwebu am Oscar. Mae’r ffilm ddogfen yma’n dilyn Celeste wrth iddi archwilio archif artistig ei mam o’r newydd, ac mae’n teithio tri chyfandir er mwyn cael dealltwriaeth well o Poly’r eicon a Poly’r fam.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi