
UDA | 2021 | 145’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Liesl Tommy
Jennifer Hudson, Forest Whittaker
Ers yn ifanc, roedd y pregethwr Clarence Franklin yn gwybod bod ei ferch yn arbennig, ac wrth iddi fynd yn hŷn, daeth ei doniau cerddorol eithriadol i’r amlwg. Serch hynny, araf yw dechrau ei gyrfa, wrth iddi gael trafferth yn rheoli ei llais a diffinio ei sŵn ei hunan o dan ddylanwad y dynion grymus yn ei bywyd – ei thad a’i gŵr Ted. Mae Jennifer Hudson yn cynnig perfformiad hyfryd wrth bortreadu hanes Brenhines yr Enaid.