
Lebanon | 2021 | 128’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Eliane Raheb | Arabeg a Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg
Wedi’i fagu gan dad Catholig ceidwadol a mam awdurdodol o Syria, roedd Miguel yn fachgen hynod sensitif yn ei arddegau, yn llawn cywilydd wrth iddo sylweddoli ei fod yn hoyw. Ac yntau’n ysu i brofi y gallai ymddwyn fel ‘dyn go iawn’, mae’n ymuno yn yr ymladd, ond ar ôl profi’r fath drawma fe fudodd i Sbaen. Ddegawdau’n ddiweddarach mae’n teimlo’n barod i wynebu ysbrydion y gorffennol, ac mae’n gobeithio adennill y cydbwysedd emosiynol, ac efallai dod o hyd i gariad hyd yn oed. Gan ddefnyddio ffurfiau cydblethog sinemataidd a chyfuno dogfen, animeiddio, archif a theatr, dyma ffilm sy’n gobeithio cynnig profiad o ymwybyddiaeth a chatharsis.
“Darn o waith cyfoethog ac amlochrog sy’n mynd i’r afael â chymhlethdod a gwrth-ddweud y profiad dynol, ynghyd â phrofiad casglebau dynol, dinasoedd... Mae’n bortread grymus o berson a lle, ac yn un o ffilmiau dogfen mwyaf trawiadol y flwyddyn.” Jennie Kermode, Eye for Film
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw