
Somalia | 2021 | 82’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Khadar Ayderus Ahmed | Arabeg gydag isdeitlau Saesneg | Omar Abdi, Yasmin Warsame, Kadar Abdoul-Aziz Ibrahim
Mae Guled, cloddiwr beddau sy’n byw yn slymiau dinas Djibouti, yn gweithio’n galed i ddod â dau ben llinyn ynghyd. Mae ei wraig annwyl Nasra, sy’n dioddef â chlefyd cronig yr arennau, mewn angen dybryd am drawsblaniad. Maen nhw’n dod o hyd i roddwr addas, ond er mwyn prynu’r aren, mae’n rhaid i Guled gasglu, gyda phythefnos yn unig, gymaint o arian ag y mae cloddiwr beddau yn ei ennill mewn blwyddyn fel arfer, felly mae ei fab gwrthryfelgar ond mentrus yn mynd i’r strydoedd gyda’i ffrind i hyslo am arian. Cynnig Somalia ar gyfer Gwobrau’r Oscars, dyma ddrama deimladwy: penfeddwol o ramantus ac yn mudferwi â dicter.
+
And Then They Burn the Sea
Qatar | 2021 | 12’ | dim tystysgrif | Majid Al-Remaihi | Arabeg gydag isdeitlau Saesneg
Myfyrdod marwnadol ar gof teuluol. Mae Al-Remaihi yn plethu archif deuluol, defod a breuddwydion wedi’u hail-greu wrth iddo ystyried colled cof graddol ei fam. Ffilm sy’n pwysleisio addewid sinema fel cyfrwng ar gyfer atgofion hyd yn oed pan fyddant ar eu mwyaf anadferadwy.
“Wedi’i gwreiddio’n ddilys yng ngwead bywyd bob dydd ar gyrion tlawd Djibouti, heb ecsotigeiddio na bod yn nawddoglyd.” Guy Lodge, Variety
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi
Sul 24 , Maw 26 - Mer 27 Medi