
Cymru | 2021 | 109’ | tystysgrif i'w chadarnhau | Sara Sugarman
Samantha Morton, Tom Felton, Adeel Akhtar, Jonathan Pryce, Susan Wokoma, Colm Meaney
Mae Liz, mam i dri o blant, yn rhedeg grŵp opera ieuenctid lleol yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Ond mae gan Tom, ei chyn gyd-ddisgybl sydd bellach yn Faer, gynlluniau i wneud arian iddo e a’i ffrindiau drwy gau’r gofod celf cymunedol a’i droi’n ganolfan siopa. Gyda chymorth ei chyn-athrawes ddrama, ei ffrindiau a’i theulu, ynghyd â chyfarwyddwr dibwys o’r enw Stephen Spielberg, mae hi’n dechrau ymgyrch i achub yr adeilad a’r sinema.