
UDA | 2021 | 117’ | i’w chadarnhau | Ahmir “Questlove” Thompson
Yn haf 1969, ffilmiwyd Gŵyl Ddiwylliannol Harlem ym Mharc Mount Morris (sef Parc Marcus Garvey bellach). Ar ôl yr haf hwnnw, anghofiwyd am y ffilm – tan nawr. Mae Ahmir ‘Questlove’ Thompson yn cyflwyno ffilm sy’n ein cludo ni yno, gyda pherfformiadau nas gwelwyd o’r blaen gan Stevie Wonder, Nina Simone, Sly & the Family Stone, Gladys Knight & the Pips, Ray Baretto, Abbey Lincoln & Max Roach a mwy.