
UDA | 2020 | 90’ | 18 | Janicza Bravo
Taylour Paige, Riley Keough, Nicholas Braun
Yn 2015: mae @zolarmoon yn trydar “wanna hear a story about why me & this bitch here fell
out???????? It’s kind of long but full of suspense.” Gan ddechrau hynt a helynt A’Ziah King, neu Zola. Fe’i hadroddwyd am y tro cyntaf mewn cyfres eiconig o drydariadau a aeth yn firol, ac mae’r chwedl fwy od na ffuglen yn dod yn fyw yn y ffilm ddisglair yma. Gweinyddes mewn bwyty yn Detroit yw Zola, ac mae’n dechrau cyfeillgarwch newydd gyda chwsmer, Stefani, sy’n ei hargyhoeddi i ymuno â hi am benwythnos o ddawnsio a phartïo yn Fflorida. Ond buan mae’r hyn sy’n ymddangos fel taith foethus yn troi i fod yn 48 awr gyda phimp di-enw, cariad hurt Stefani, gangsters Tampa, ac anturiaethau annisgwyl eraill yn y stori wyllt yma. Gyda sgôr synth chwerwfelys gan Mica Levi (Under the Skin), dyma ddatganiad byw o fwriad gan wneuthurwr ffilm newydd a chyffrous.