
UDA | 2021 | 105’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Todd Stephens, Udo Kier, Jennifer Coolidge
Mae Pat Pitsenbarger, dyn trin gwallt wedi ymddeol, yn dianc rhag muriau ei gartref nyrsio lleol ar ôl clywed mai dymuniad olaf ei gyn-gleient oedd iddo fe wneud ei gwallt am y tro olaf. Yn fuan, mae Pat yn mynd ar daith i wynebu ysbrydion ei orffennol a chasglu’r offer harddwch sydd eu hangen i wneud y gwaith. Gyda pherfformiad atyniadol gan yr actor chwedlonol Udo Kier, mae’r ffefryn yma o ŵyl Gwobr Iris yn daith ddoniol a chwerwfelys am ailddarganfod eich hud, ac edrych yn wych wrth wneud hynny.
Mae tocynnau’n cynnwys mynediad i barti Coctel yr Haf Ffrindiau Iris ddydd Sadwrn 11 Mehefin, lle bydd cyfle i gwrdd â’r cyfarwyddwr Todd Stephens cyn y ffilm.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw