
Prydain | 2022 | 83’ | cynghorir 18 | amrywiol
Dathlwch amrywiaeth a hylifedd chwant gyda Touched, sy’n arddangos ffilmiau byrion synhwyrus gan wneuthurwyr ffilm benywaidd ac anneuaidd. Wedi’i chyd-guradu gan gydweithfeydd TAPE ac Invisible Women, mae’r rhaglen wrthdroadol a syfrdanol yma’n cysylltu gwneuthurwyr ffilm ar draws y degawdau drwy gyfuno gwaith cyfoes gyda darnau prin o’r archif. Dyma ddetholiad ffraeth, clòs, ac anymddiheurol rywiol o ffilmiau sy’n creu lle i drafodaethau ehangach am hunan-garu, agosatrwydd a hiraeth.
What About Me?
Prydain | 2021 | 3’ | Lois Stevenson
Golwg chwareus ar dorcalon yn ei holl ffurfiau; taith wallgo o hunan-ddarganfod a ffrwydrad o egni benywaidd. Wedi’i hysbrydoli gan gysyniad gwreiddiol y dylunydd dillad gwau, Megan Sharples (Knit Lyf), mae’n dilyn Sanaa, sydd wedi torri’i chalon a’i meddiannu gan fod dinistriol, y Bwystfil Cariad, sy’n adrodd y ffilm drwy fonolog mewnol.
Random Acts of Intimacy
Prydain | 1999 | 15’ | Clio Barnard
Ffilm am eiliadau byr o gyswllt ac agosatrwydd rhywiol. Mae’n trafod syniadau am gof erotig, ffantasi rhywiol, awydd rhywiol a chariad rhamantus.
FUCK YOU
Sweden | 2018 | 14’ | Anette Sidor
Mae Alice gyda Johannes, ond does ganddi ddim digon o le i fod yn hi ei hunan. Ar noson allan gyda’i ffrindiau, mae’n dwyn strap-on ac yn herio syniadau ei chariad am ferched.
What She Wants
Prydain | 1994 | 5’ | Ruth Lingford
Mae menyw sy’n teithio ar y trên tanddaearol yn cael ei thormentio â delweddau o chwant. Mae What She Wants – a grëwyd yn gyfan gwbl ar gyfrifiadur cartref Amiga 1500 – yn ffilm am ryw a siopa, defnydd cymdeithasol o rywioldeb, a chyfalafiaeth sy’n methu.
Wavelengths
Prydain | 1997 | 15’ | Pratibha Parmar
Ffilm fer ddramatig am yr helfa oesol am gariad ac agosatrwydd dynol. Mae’r ffilm steilus, ffraeth a chynnes yma wedi’i gosod mewn barau hoyw, mewn breuddwydion, mewn hysbysebion a seiberofod, ac yn ymhyfrydu yn y byd mae’n ei gyfleu wrth iddi archwilio antur un fenyw i fyd seiber-ryw, wrth iddi chwilio am ryw sy’n fwy diogel yn emosiynol.
#Familiar #Touch #Lost #Figures
Prydain | 2017 | 12’ | Katayoun Jalilipour
Archwiliad o achau queer a phobl queer ar wasgar, a’r cyfuniad rhwng traddodiadau diwylliannol a hunaniaeth queer gyfoes. Mae’r ffilm fer yma’n sôn am y pethau preifat sy’n dabŵ; pan fyddwch chi’n sownd rhwng peidio gwybod ble mae eich cartref, a dod o hyd i gartref mewn dieithryn.
The Birth Of Valerie Venus
Prydain | 2020 | 15’ | Sarah Clift
Mae gwraig ffyddlon ficer yn cael ei meddiannu gan rym rhyfedd sy’n datgelu ochr ddrwg nad oedd hi’n gwybod oedd ganddi.
She Wanted Green Lawns
Prydain | 1991 | 4’ | Sarah Turner
Dyma fawl i gariad a ffantasi sy’n cynnwys cân y Carpenters ‘Close To You’. Wedi’i ffilmio mewn bar hoyw, mae’r camera crwydrol yn oedi ar wyneb menyw, ar lilis, ar grwpiau bach o bobl yn yfed ac yn mwynhau, ac ar y gusan ddiarhebol rhwng dwy fenyw. Fel petai wedi’i gynllunio, mae deg lesbiad yn creu llinell wrth y bar ac yn perfformio dawns ar y cyd yn ddi-hid. Ffantasi ddyrchafedig, gyda phleser fel protest
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw