Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Rydyn ni ar agor! Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i’ch cadw chi’n ddiogel, gan gynnwys pellter cymdeithasol o 2 fedr, Tracio ac Olrhain, mynediad drwy’r drysau blaen yn unig, a seddi dynodedig yn ein sinemâu a’n theatrau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

The Best of Sheffield Adventure Film Festival 2019

The Best of Sheffield Adventure Film Festival 2019

Llun 1 Ion 0001 - Sad 7 Medi 2019

Rhaglen o ffilmiau byrion yn cynnwys uchafbwyntiau dringo, rhedeg a beicio, ynghyd ag anturiaethau ar eira a'r strydoedd, gan gynnwys y ffilm o Gymru, Ar Gefn y Ddraig, a ffilm fer ddiweddaraf Alex Honnold a Jimmy Chin a wnaeth Free Solo.

Queen Maud Land Mae tîm perffaith o chwe dringwr elitaidd, yn cynnwys Alex Honnold a Jimmy Chin o Free Solo, yn cychwyn ar alltaith i un o ochrau dringo mawr olaf y byd: tyrau rhew anghysbell yr Antarctica. (USA|27’)

Gravitas Sesiwn ymarfer corff anhygoel ar y stryd gyda'r athletwr Calisthenig o Awstralia, "Simonster". (GER|2’)

Kai Jones Mae'r rhyfeddod sgïo rhydd deuddeg oed, Kai Jones, yn meistroli tirwedd rhyfeddol yn Jackson Hole... (USA|5’)

Ar Gefn y Ddraig | Riding The Dragon Dilynwch Huw Jack Brassington wrth iddo geisio Ras Cefn y Ddraig Berghaus am y tro cyntaf, wrth i'w gyfaill, Huw Erddyn, ei ddilyn i greu ei ffilm gyntaf. (CYM|56’)

The Frenchy Hoffter heintus o fywyd, chwedlau epig am oroesi, a gallu gwrthwynebu heneiddio drwy chwerthin - dysgwch am effaith enfawr The Frenchy ar y gymuned awyr agored. (USA|14’)

A Mile An Hour Mae Beau yn diffinio'i hun ar sail ble mae ei draed yn ei arwain, gan feddwl ynghylch gweddill ei fywyd wrth iddo redeg milltir yr awr o gwmpas ei floc sy'n filltir perffaith o hyd... (AUS|17’)

Age 15+

Prisiau:
£7.90

Tocynnau ac Amseroedd