
UDA | 2022 | 102’ | PG | Loren Bouchard, Bernard Derriman
H. Jon Benjamin, Kristen Schaal, Dan Mintz, John Roberts, Eugene Mirman
Yn y sioe sgrin fawr yma o’r gyfres animeiddiedig boblogaidd, mae trychineb yn taro! Mae twll mewn pibell ddŵr yn achosi i lyncdwll mawr ymddangos o flaen adeilad Bob’s Burgers, gan rwystro’r fynedfa a difetha cynlluniau teulu’r Belcher i gael haf llwyddiannus. Tra bod Bob a Linda yn gwneud eu gorau i gadw’r busnes i fynd, mae’r plant yn ceisio datrys dirgelwch a allai achub bwyty’r teulu. Wrth i’r peryglon gynyddu, mae’r teulu’n helpu ei gilydd i ganfod gobaith ac i frwydro er mwyn mynd yn ôl at eu bwyty, lle maen nhw i fod.
+ Sesiwn holi ac ateb wedi'i recordio ymlaen llaw efo Simon Chong.