
UDA | 2021 | 111’ | 15 | Paul Schrader
Oscar Isaac, Tiffany Haddish, Tye Sheridan
Mewn casinos ledled America, mae William “Tel” Tillich, gamblwr proffesiynol, yn cyfri pob llaw er mwyn ennill digon i fyw. Ac yntau’n cael ei boenydio gan ysbrydion ei orffennol fel cyn-holwr milwrol, mae’n dod ar draws dyn ifanc blin, Cirk, sy’n chwilio am gymorth i ddial ar gyrnol milwrol. Caiff y ffilm ei harwain gan berfformiad gafaelgar Oscar Isaac, ac mae’n ategu pennod swmpus arall at ymchwil hir Paul Schrader i gyfrifoldeb moesol dyn a gwrywdod tocsig a ddangoswyd mor huawdl yn Taxi Driver, American Gigolo a First Reformed.
“Mae Schrader wedi saernïo ffilm gref a chywrain, sy’n hypnotig a hawdd ei gwylio, sy’n aflan ag ôl-fflachiadau hunllefus a diweddglo apocalyptaidd nodweddiadol sy’n datblygu’n ddigon credadwy o’r hyn sydd wedi mynd o’i flaen. Mae’r gêm llawn risg yma’n llawn ysictod taer ac erchyll.” Peter Bradshaw, Guardian
Gwen 29 Medi, Maw 3 - Iau 5 Hyd