
Japan | 2021 | 120’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Iaith Dramor | Masashi Ando, Masayuki Miyaji, Shinichi Tsutsumi, Hisui Kimura
Milwr yw Van, sy’n ymladd dros ei wlad yn erbyn ymerodraeth fawr sy’n ceisio ymgorffori eu cartref yn eu teyrnas. Mewn brwydr, caiff ei gipio’n gaethwas, tan i gnud o gŵn ymosod ar y gwersyll un noson ac i Van fachu ar y cyfle i ddianc. Mae’n cwrdd â merch ifanc o’r enw Yuna, ond caiff y ddau eu cnoi gan y cŵn sy’n cario clefyd dirgel. Wrth i’r clefyd ddechrau lledaenu drwy’r boblogaeth, maen nhw’n wynebu brwydr llawer mwy na rhyfel rhwng gwledydd. Ffilm nodwedd gyntaf y cyfarwyddwyr a fu’n gweithio fel animeiddwyr ar Spirited Away, Princess Mononoke a Your Name ac sy’n cynnig yr un sylw i fanylder yn y ffilm epig yma.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi