Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

The French Dispatch (15)

UDA | 2020 | 108’ | 15 | Wes Anderson
Timothée Chalamet, Bill Murray, Tilda Swinton, Léa Seydoux, Jeffrey Wright, Frances McDormand

Mae teyrnged annwyl Wes Anderson i newyddiaduraeth a chylchgronau llenyddol yn wledd i’r llygaid ac yn ffilm ddoniol graff a phleserus llawn sêr. 

Mae The French Dispatch, cylchgrawn uchel-ael yn nhref Ffrengig ddychmygol Blasé-sur-Ennui, wedi cyrraedd diwedd ei oes. Mae ei sylfaenydd (Bill Murray) wedi marw, ac mae ei greadigaeth annwyl yn edrych fel pe bai am ddod i ben. Wrth wneud hynny, mae’r staff yn edrych yn ôl yn hiraethus ar ddyddiau da’r sefydliad, pan fyddai’r awduron yr un mor enwog â’r pynciau roedden nhw’n eu trafod. Mae gyda chi’r beirniad celf (Tilda Swinton) sy’n ein difyrru â stori am baentiwr wedi’i garcharu (Benicio Del Toro) a’i obsesiwn gyda’i awen (Léa Seydoux); gohebydd gwleidyddol (Frances McDormand) yr oedd ei ‘materion cyfoes’ un tro’n cynnwys gwrthryfelwr ifanc (Timothée Chalamet) mewn protest fyfyrwyr; a’r beirniad bwyd rheibus (Jeffrey Wright) sy’n dipyn o pot-au-feu pan gaiff ei ddal yn rhan o gynllwyn herwgipio. Mae Anderson ar ei orau gyda’r deyrnged ddisglair, hynod ddyfeisgar ac afreolus o ffraeth yma i gylchgrawn y New Yorker a’i awduron. Ynghyd â’i arddull saethu nodweddiadol – cyfansoddiadau cymesur a choeth – mae defnydd medrus o gymhareb agwedd a symudiadau di-dor rhwng lluniau lliw a du a gwyn. A chaiff yr holl beth ei gynnal gan sgôr hyfryd ei gydweithiwr rheolaidd Alexandre Desplat. Rhwng popeth, mae’n ysblennydd. 

 

Prisiau:

£6 / £4

Unreserved seating - for your comfort and safety, we’re selling at a reduced capacity. 

COVID safety: In line with Welsh Government legislation, you’ll need to show a COVID Pass or proof of a recent negative test result to attend. For further details, click here. We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here.

Tocynnau ac Amseroedd