Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Rydyn ni’n agor! Digwyddiadau ac archebu bwrdd yn y Caffi Bar. Mae manylion yr hyn dylech ei ddisgwyl ar gael yma. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i weithredu a diogelu ein dyfodol. Diolch. 

 

The Human Factor (15)

Gwen 18 - Iau 24 Meh

Prydain | 2019 | 108’ | 15 | Dror Moreh

Am eiliad mewn amser, roedd hi’n ymddangos fel pe bai heddwch yn bosib yn y gwrthdaro sydd ymhlith y mwyaf dwys yn yr oes fodern. Gyda mynediad digynsail at negodwyr mwyaf blaengar America, dyma stori afaelgar am y 25 mlynedd diwethaf sy’n mynd y tu ôl i’r llen, sy’n trafod sut bu i’r Unol Daleithiau bron â llwyddo i gyflawni’r amhosibl: sicrhau heddwch rhwng Israel a’i chymdogion. Heddiw, mae’r angen i ddysgu gan gamgymeriadau’r gorffennol yn fwy nag erioed. 

“Mae’r ffilm ddogfen gyfareddol a chytbwys yma… yn cyflawni ar gyfer crefft gwladwriaeth a diplomyddiaeth y tu ôl i’r llen fel y gwnaeth ffilm The Fog of War gan Errol Morris i strategaeth filwrol yn 2003"  Wendy Ide, The Guardian

 

Prisiau:

£6 / £4

Tocynnau ac Amseroedd