
Brasil | 2019 | 139’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Karim Aïnouz
Carol Duarte, Julia Stockler
Yn Rio’r pumdegau, mae dwy chwaer agos, Eurídice sy’n 18 oed a Guida sy’n 20 oed, yn byw gartref gyda’u rhieni ceidwadol. Er eu bod wedi’u trochi mewn bywyd traddodiadol, mae gan y ddwy freuddwyd breifat: Eurídice i gael dod yn bianydd, a Guida i gael dod o hyd i gariad. Ond pan gânt eu gorfodi i fyw ar wahân, mae’n rhaid iddyn nhw reoli eu tynged heb y llall, gan ddal ymlaen i’r gobaith o ddod o hyd i’w gilydd. Mae’r astudiaeth graff yma o ddwy fenyw wahanol iawn yn archwiliad o sut caiff breuddwydion eu chwalu a rhyddid ei wadu ym Mrasil ormesol canol y ganrif, a dyma oedd cynnig Brasil ar gyfer y Ffilm Ryngwladol Orau yng Ngwobrau Oscars 2020.
“Breuddwyd effro, yn llawn sain, cerddoriaeth a lliw i gyfateb i ddwyster y teimlad” Guy Lodge, Variety
Gwen 12 - Sul 14 , Maw 16 - Iau 18 Awst