Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

The Last Tree (15)

Gwe 11 - Sad 12 , Llun 14 - Iau 17 Hyd

Ar ôl cael ei faethu yn ardal wledig Swydd Lincoln, caiff Femi ei gasglu'n sydyn gan ei fam fiolegol o Nigeria, a'i symud i ardal ddifreintiedig ac amlddiwylliannol yng nghanol dinas Llundain, gan arwain at newid dwys yn ei ymdeimlad o'i hunan. Mae'n ei chael yn anodd deall beth yw ystyr bod yn ddyn ifanc du yn y brifddinas, ac mae'n rhaid iddo wynebu ei hanes er mwyn penderfynu pa lwybr at fod yn oedolyn bydd yn ei gymryd. Mae'r ffilm rannol hunangofiannol yma, sy'n cynnig astudiaeth gyfareddol o Brydeindod a gwrywdod du, yn freuddwydiol ac yn atgofus.

GBR | 2019 | 99’ | 15 | Shola Amoo

 

'told with compassion...profoundly moving'  THE GUARDIAN

Prisiau:

Various | Amrywiol

Tocynnau ac Amseroedd