
Prydain | 1992 | 85’ | U | Brian Henson
Michael Caine, Frank Oz, Dave Goelz
Mae Ebenezer Scrooge yn gybydd chwerw sy’n casáu’r Nadolig a’r llawenydd a ddaw gydag e. Yn gweithio i’r crimpyn mae ei weithiwr ffyddlon, Bob Cratchit, sy’n erfyn ar Scrooge am wyliau ar ddydd Nadolig. Mae Scrooge yn cytuno’n anfodlon, ac yn mynd adre ar noswyl Nadolig yn llawn dicter tuag at bobl lawen yr ŵyl. Ond yna daw ysbryd Nadolig y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol i ymweld ag e, ac mae Scrooge, ar ôl ailedrych ar ei orffennol trist, ei bresennol llawn casineb, a’i ddyfodol di-obaith, yn troi tudalen newydd ac yn dod yn un o’r bobl fwyaf hael a llawen yn y dref.