
Prydain | 2022 | 113’ | 18 | Agnieszka Smoczynska | Letitia Wright, Tamara Lawrance
Un tro yn Hwlffordd, penderfynodd dwy chwaer unfath beidio siarad â neb ond ei gilydd. Mae’r ffilm yma’n seiliedig ar fywyd go iawn June a Jennifer Gibbons, dwy chwaer a fagwyd yn yr unig deulu Du yn y dre. Daeth y ddwy i gael eu hadnabod fel “yr efeilliaid tawel” gan iddyn nhw wrthod cyfathrebu gyda neb arall, gan fynd yn gatatonig pan fydden nhw’n cael eu gwahanu. A’r wladwriaeth wedi’u gadael i bob pwrpas, arweiniodd eu creadigrwydd a'u dychymyg dwys at ddatblygu eu hiaith eu hunain gan droi eu cefnau ar gonfensiwn. Ar ôl cael eu carcharu, maen nhw’n wynebu dewis i wahanu a goroesi, neu farw gyda’i gilydd. Dehongliad diddorol a sensitif o stori wir am adeg dywyll yn hanes diweddar Cymru.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw