
UDA | 2021 | 90’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Todd Haynes
Un diwrnod yn Efrog Newydd fe groesodd llwybr dau ddyn – rhyfeddod cerddorol o Gwm Aman, a dyn ag obsesiwn â diwylliant pop o Long Island – ac fe newidiwyd y byd am byth. Gyda chyfweliadau manwl, trysorfa o glipiau ffilm sydd heb eu gweld o’r blaen, ffilmiau Warhol a llygad y cyfarwyddwr chwedlonol Todd Haynes (Velvet Goldmine; Carol; I’m Not There), dyma ffilm drochol i’r band a greodd sain unigryw gan groesawu oes newydd. The Velvet Underground; band eu cyfnod, ond sydd hefyd yn fythol; yn llenyddol ond yn realistig; wedi’u gwreiddio yn y byd celf uchel ac mewn diwylliant stryd. Gyda’i gilydd, fe greon nhw’r hyn a gafodd ei ddisgrifio gan yr aelod sefydlu a’r cerddor o Gymru John Cale fel “sut i fod yn goeth a sut i fod yn greulon”.
“Teyrnged afieithus i gelf arbrofol” David Rooney, Hollywood Reporter
Gwen 12 - Sul 14 , Maw 16 - Iau 18 Awst