
Cymru | 2021 | 38’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Lindsay Walker
Mae’r ffilm ddogfen yma’n adrodd hanes Owain Williams, un o sylfaenwyr Mudiad Amddiffyn Cymru a benderfynodd weithredu pan ddaeth cronfa ddŵr i beryglu ei gymuned wledig Gymraeg. Gyda chynnydd yn y diddordeb yn hanes Cymru ac ymgyrch #CofiwchDryweryn, dyma ffilm amserol gan lais newydd a chyffrous ym myd sinema Cymru.
+
Tryweryn
Cymru | 2021 | 5’ | Osian Roberts
Animeiddiad o hanes pentref Capel Celyn.
Cymraeg gydag is-deitlau