
Iwerddon | 2022 | 108’ | 15 | Sebastián Lelio | Florence Pugh, Tom Burke
Ym 1862 yng nghanolbarth Iwerddon mae Anna 11 oed yn stopio bwyta ond yn dal i fod yn fyw ac yn iach. Mae twristiaid a phererinion yn teithio i’r pentre bach i weld y plentyn, ac mae nyrs o Loegr Lib Wright yn dod yno i arsylwi. A yw’r pentre’n gartref i santes, neu oes rhywbeth amheus ar waith? Ffilm gyffro seicolegol lle gwelwn ddau ddieithryn yn trawsnewid bywydau ei gilydd, wedi’i haddasu o nofel boblogaidd Emma Donoghue a’i hysbrydoli gan ffenomen “merched yn ymprydio” o’r 19eg ganrif, gyda pherfformiad canolog anhygoel gan Florence Pugh.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw