
Ffrainc | 2021 | 108’ | 18 | FL | Julia Ducournau
Agathe Rousselle, Vincent Lindon
Yn dilyn damwain yn ei phlentyndod, mae gan Alexia gysylltiad anarferol gyda cheir, a welir drwy gyfarfyddiad orhyfedd un nos yn ei swydd fel dawnswraig. Pan mae ei thueddiadau llofruddiol yn ei gorfodi i fynd ar ffo, mae’n cuddio ei hunan fel bachgen coll ac yn ffurfio cysylltiad amwys iawn gyda phennaeth uned tân ac achub. Mae rhyweddhylifedd, gwrthdroad teuluol, deliriwm tecno-rywiol a thrais ysgytiol yn mynd â’r ffilm yma (gair Ffrangeg am titaniwm) i bellafion dyfodoliaeth genre, gyda sinematograffi Ruben Impens yn gwthio estheteg trash-pulp i lefel newydd hynod gymhleth. Mae ffilm ddilynol Julie Ducournau i Raw yn sinema drydanol freuddwydiol eithafol.