
UDA | 2022 | 131’ | 12A | Joseph Kosinski, Tom Cruise, Miles Teller, Glen Powell
Ar ôl dros ddeng mlynedd ar hugain o wasanaeth fel un o brif awyrenwyr y llynges, mae Pete ‘Maverick’ Mitchell yn union lle mae i fod, yn gwthio ffiniau diogelwch fel peilot profi dewr ac yn osgoi’r dyrchafiad i rengoedd uwch a fyddai’n ei dynnu o’r awyr. Pan mae’n dechrau hyfforddi carfan o raddedigion Top Gun ar gyfer ymgyrch arbenigol na welodd yr un peilot byw ei debyg o’r blaen, mae Maverick yn dod ar draws yr Is-gapten Bradley Bradshaw, sef mab ei ddiweddar ffrind Goose. Wrth wynebu dyfodol ansicr ac ysbrydion ei orffennol, caiff Maverick ei dynnu i wynebu ei ofnau dyfnaf ei hunan, gydag ymgyrch sy’n gofyn am yr aberth mwyaf gan y rhai a fydd yn cael eu dewis i’w hedfan.
Gwen 12 - Sul 14 , Maw 16 - Iau 18 Awst