
Gwlad Belg | 2021 | 89’ | 15 | Jean-Pierre Dardenne, Luc Dardenne | Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg | Pablo Schils, Joely Mbundu
Mae dau berson ifanc yn eu harddegau wedi teithio o Benin ar eu pennau eu hunain i Wlad Belg, ac maen nhw bellach mewn cartref i blant yn aros am eu papurau preswylio. Yn brin iawn o arian ac yn dal i fod mewn dyled i fasnachwyr pobl, mae eu cyfeillgarwch anorchfygol yn cael ei herio gan amodau creulon eu halltudiaeth. Dyma ddychweliad tanbaid gan y brodyr Dardenne sydd wedi ennill sawl gwobr, ac a dreuliodd eu gyrfaoedd yn crefftio dramâu moesol am bobl ddifeddianedig Gwlad Belg.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw