Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Tove (12)

Gwen 9 - Iau 15 Gor 2021

Y Ffindir | 2020 | 103’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Zaida Bergroth
Alma Pöysti, Krista Kosonen, Shanti Roney

Mae bywyd bohemaidd yr artist a’r awdur Tove Jansson yn dod yn fyw yn y ffilm gofiannol amserol a theimladwy yma. Gan archwilio ei blynyddoedd cynnar yn Helsinki fel artist sy’n ei chael yn anodd, gyda’r sefydliad artistig wedi troi ei gefn arni, mae Tove yn partïo’n galed gyda’r deallusion ac yn methu cyflawni disgwyliadau artistig uchel ei thad y cerflunydd. Yn ei harddangosfa unigol gyntaf, mae’n cwrdd â’r cyfarwyddwr theatr priod Vivica Bandler, ac mae’r atyniad rhyngddyn nhw’n amlwg. Mae perthynas angerddol yn parhau, sy’n bwydo creadigrwydd Tove, a buan y mae ei chreadigaeth enwocaf yn syfdrannu’r byd. Dyma ddathliad hyfryd o fywyd a gwaith menyw hynod, a byddwch eisiau mynd am dro drwy’r Mwmin-Gwm cyn gynted ag y bydd y ffilm yn dod i ben.

I ddilyn y ffilm fe fydd sesiwn Holi ac Ateb wedi’i recordio

Prisiau:

£6 / £4

Tocynnau ac Amseroedd